“Y Clefyd Cymreig”? Arolwg o nofelau Cymraeg wedi’u hysgrifennu o safbwynt y plentyn ers 1900 a dylanwad Un Nos Ola Leuad arnynt

  • Mari Elin Jones

Student thesis: Master's ThesisMaster of Philosophy

Abstract

Eir ati yn y traethawd hwn i olrhain hanes y nofel Gymraeg sy’n trafod plentyndod o safbwynt y plentyn dros y ganrif ddiwethaf, gan ganolbwyntio ar ddylanwad Un Nos Ola Leuad ar y genre llenyddol hwn.
Wrth imi ddewis maes ymchwil y traethawd hwn, cefais fy nenu at y portread o’r plentyn a phlentyndod yn llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, a hynny o ganlyniad i ddiddordeb mewn llenyddiaeth am blant ac ar eu cyfer. Rwy’n ysgrifennu ar gyfer plant fel diddordeb, ac felly roedd y cyfle i astudio’r plentyn, y darluniau o blentyndod sy’n bodoli eisoes o fewn llenyddiaeth Gymraeg, a’r defnydd o’r dechneg o ysgrifennu o safbwynt plentyn, neu yn llais y plentyn yn atyniadol iawn. Yn ogystal â hyn sylwais nad yw’r pwnc wedi cael rhyw lawer o sylw, er bod twf amlwg wedi bod yn y math yma o lenyddiaeth yn y Gymraeg, a'r tu allan i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf. Yn wir, mae cyfrol y Fedal Ryddiaith eleni, 2014, yn agor gyda’r traethu’n dod o enau plentyn.
Wrth fynd ati i ddarllen adolygiadau ac erthyglau am nofelau am blentyndod neu o safbwynt y plentyn, daeth yn amlwg i mi fod ambell i feirniad llenyddol yn gweld y twf hwn mewn nofelau o’r math fel rhywbeth Cymreig, er enghraifft Dafydd Glyn Jones1. Ond yr ymadrodd a gydiodd yn fy nychymyg, ac a ddaeth i fod yn addas fel teitl i’m traethawd, oedd
1 Dafydd Glyn Jones, ‘Rhai Storïau am Blentyndod’, Ysgrifau Beirniadol IX (Gwasg Gee, 1976)
4
geiriau Annes Glyn wrth iddi drafod y gyfrol o straeon Miri a Mwyar ac Ambell Chwip Din gan Miriam Llywelyn (1994):
Byddai rhai yn eu collfarnu am eu bod yn edrych yn ôl yn lle ymlaen, yn dioddef o’r ‘clefyd Cymreig’ o edrych dros ein hysgwydd i’r gorffennol.2
Date of Award2014
Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Aberystwyth University
SupervisorMihangel Morgan (Supervisor)

Cite this

'