Er gwaethaf ei bwysigrwydd i nifer o elfennau cymdeithas, mae geomorffoleg, fel maes a therm, yn anghyfarwydd i’r mwyafrif o bobl. Er mwyn manteisio ar y pwysigrwydd hwn mae angen gwella'r modd y cyfathrebir geomorffoleg fel pwnc, i gynulleidfaoedd gwyddonol ehangach ac i'r cyhoedd yn gyffredinol. Un maes allweddol o bwys yw rôl posibl geomorffoleg mewn geodwristiaeth. Yn y traethawd hwn, rwy'n trafod sut y gall adnabod geomorffosafleoedd hyrwyddo cyfleoedd awyr agored a gwella profiadau ymwelwyr. Mae geomorffosafleoedd (a ddiffiniwyd yn gyntaf gan Panizza, 2001) yn safleoedd tirwedd y gellir priodoli iddynt werthoedd gwahanol (gwerth gwyddonol yn bennaf, ond hefyd gwerthoedd diwylliannol, hanesyddol, ecolegol, esthetig ac economaidd). Gan ddefnyddio tair methodoleg gyhoeddedig, ac un fethodoleg a luniais yn bwrpasol, rwyf wedi adnabod ac asesu 30 geomorffosafle potensial yng Nghymru, gan bennu sgôr meintiol ar gyfer pedwar gwerth pob safle: gwyddonol; diwylliannol, ychwanegol (ecolegol, esthetig); a defnydd posib. Ar gyfer safleoedd sy'n sgorio'n uwch, holais a yw’n bosib integreiddio gwybodaeth geomorffolegol gyda mathau eraill o wybodaeth, yn enwedig gwybodaeth ddiwylliannol, fel porth i ennyn diddordeb ymwelwyr mewn tirffurfiau a phrosesau geomorffolegol, a thrwy hynny wella eu profiadau yn gyffredinol o’r safleoedd. Cynlluniais dair astudiaeth achos, yn Rhaeadrau Pontarfynach, Sarn Cynfelyn a Chwm Elan, i archwilio hyn ac i roi prawf ar amrywiaeth o ddulliau hyrwyddo ac addysgiadol. Er gwaethaf y cysylltiadau helaeth sy’n bodoli rhwng tirweddau a thirffurfiau Cymru a’i diwylliant (e.e. llenyddiaeth, celfyddyd, barddoniaeth, cerddoriaeth), a’r ffaith eu bod o bwysigrwydd cymharol i safleoedd yn Ewrop, mae’n rhaid casglu bod llawer o safleoedd Cymru yn parhau i gael eu tanhyrwyddo a'u tanddefnyddio at ddefnydd geodwristiaeth. Mae dulliau rhyngddisgyblaethol sy'n cyfuno gwybodaeth aml-haenog am dirweddau a thirffurfiau (e.e. geomorffoleg, daeareg, ecoleg, archaeoleg, llenyddiaeth, celfyddydau gweledol, chwedlau) yn ffordd allweddol o ddenu mwy o ymwelwyr a chyfoethogi eu profiadau, a thrwy hynny arwain at well gwarchodaeth o’n geodreftadaeth.
- Geodreftadaeth (Geoheritage)
- Geomorffoleg (Geomorphology)
- Geomorffosafleoedd (Geomorphosites)
- Cadwraeth (Heritage)
- Diwylliant (Culture)
Archwilio’r posibiliadau o fewnblannu dealltwriaeth geomorffolegol wrth hyrwyddo a gwarchod geodreftadaeth Cymru
Llywelyn, S. (Author). 2019
Student thesis: Doctoral Thesis › Doctor of Philosophy