Pris Cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr

Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

Crynodeb

Ymdriniaeth â’r amgylchiadau a arweiniodd at ymddiswyddiad T. H. Parry-Williams yn 1919-1920 pan dreuliodd y flwyddyn academaidd honno yn fyfyriwr gwyddonol gyda’r bwriad o fynd yn feddyg neu’n llawfeddyg. Adeiladir ar y deunydd sydd wedi ymddangos eisoes gennyf ar ffurf erthyglau i greu trafodaeth fwy estynedig a manylach, a chynhwysir deunydd cwbl newydd na chafodd ei drafod gan neb o’r blaen ac nas cyhoeddwyd yn unlle cyn hyn. Bydd gwybodaeth newydd ynddi am yrfa filwrol ei frodyr ac am ei ddiddordeb ysol mewn meddygaeth, ac fel yr adlewyrchir hynny yn ei weithiau llenyddol.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniadThe Price of Conscience: T. H. Parry-Williams and the Shadow of the Great War
Iaith wreiddiolCymraeg
CyhoeddwrY Lolfa
Nifer y tudalennau304
ISBN (Argraffiad)9781784616281, 1784616281
StatwsCyhoeddwyd - 24 Hyd 2018

Ôl bys

Gweld gwybodaeth am bynciau ymchwil 'Pris Cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr'. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Dyfynnu hyn