Proffil personol
Gwybodaeth ychwanegol
Mae Amanda hefyd yn gymwys mewn tylunio babanod datblygiadol.
Mae Amanda yn frwd dros sicrhau ehangu cyfranogiad cyfleoedd addysg ar gyfer addysg gofal iechyd yn ogystal a sicrhau agwedd sy'n ystyriol a deuluoedd a fewn rhaglenni gofal iechyd, i ddiwallu anghenion unigolion sydd a chyfrifoldebau gofalu o fewn canolbarth Cymru
Dysgu
Mae Amanda's dysgu ar draws phob modiwl a rhaglenni o fewn addysg gofal iechyd
Diddordebau ymchwil
Mae Amanda wedi cyhoeddi dau ddarn o waith trwy gyfrwng y Gymraeg:
Plant yn gor-ddefnyddio dyfeisiau electronig – oes angen i ni boeni? – Golwg360
Mai 2019: Cyflwyno mewn cynhadledd Y Coleg Nyrsio Brenhinol ym Mryste :Pwisygrwydd yr iaith Gymraeg mewn gofal iechyd yng Nghymru
Tachwedd 2019: Cynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru : Pwisygrwydd yr iaith Gymraeg mewn gofal iechyd yng Nghymru
Tachwedd 2022: Cynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru : Datblygu cyrsiau Addysg Gofal Iechyd yng Nghanolbarth Cymru
Mawrth 2023: Cofleidio rhith-relaiti o fewn gofal iechyd i fyfyrwyr nyrsio
Gorffennaf 2023: Cyflwyno yn Symposiwm Efelychu ar y Cyd PA: Dulliau newydd ac arloesol o gyflwyno cwrs nyrsio israddedig
Gorffennaf 2024: Gweithredu Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Gofalwyr mewn addysg gofal iechyd: Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Abertawe
Proffil
Mae Amanda Jones yn Prif Arweinydd a phennaeth Addysg Gofal Iechyd, ag yn aelod sefydlu gyda chyfrifoldeb gweithredol dros y rhaglen gradd nyrsio llawn amser a rhan amser Oedolion a Iechyd meddwl, y rhaglen dychwelyd i nyrsio a Thystysgrif Lefel 4 mewn Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth gan arwain y tîm nyrsio. Mae Amanda yn arwain ar ymgysylltu â rhanddeiliaid â Phartneriaid Dysgu Ymarfer ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), sy’n comisiynu’r lleoedd gradd nyrsio yng Nghymru, ynghyd a grwpiau Llywodraeth Cymru. Mae Amanda wedi gweithio ar sawl tendr a bidiau ac wedi llwyddo i gael cyllid ychwanegol i gefnogi Addysg Gofal Iechyd yn ardal Canolbarth Cymru.. Mae Amanda yn brofiadol mewn siarad cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraegg a Saesneg.
Mae Amanda yn Nyrs Gofrestredig am 30 flynyddoedd ag hefyd yn Nyrs Iechyd Cyhoeddus Gymunedol Arbenigol (Ymwelwyr Iechyd), sydd â phrofiad helaeth o weithio fel ymwelydd iechyd o fewn y rhaglen Dechrau'n Deg. Mae gan Amanda gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus sydd ag arbenigedd ym maes diogelu Plant a Phobl Ifanc. Mae ganddi Dystysgrif Ôl-raddedig mewn addysgu mewn Addysg Uwch (PGCtHE) wedi'i chwblhau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'n Gymrawd ar gyfer yr Academi Addysg Uwch.
Mae Amanda yn Athro Nyrsio Cofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac yn Nyrs bresgripsiynydd cymunedol cofrestredig
Mae Amanda wedi gweithio fel Uwch Ddarlithydd i Brifysgol Abertawe yng nghynt, a hefyd bu'n Arweinydd yr iaith Gymraeg y Coleg wrth weithredu'r Safonau Iaith Gymraeg ar draws y Coleg cyn dechrau yn ei swydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gan Amanda brofiad helaeth o addysgu mewn addysg uwch ac mae wedi cefnogi myfyrwyr ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig yn academaidd ac yn glinigol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae Amanda yn siaradwr Cymraeg rhugl, ag yn arholwr allanol cynt i Brifysgol Sunderland ag yn arbenigwr pwnc allanol ar gyfer cymeradwyo rhaglen yr NMC
Enillodd Amanda Wobr Staff yn 2017 am 'Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant'
Mae cyfrifoldebau Amanda hefyd yn cynnwys:
- Is-Gynullydd ar gyfer Gyngor Doniaid Iechyd Cymru
- Cyfarwyddwr Dysgu ad Addysgu ar gyfer Addysg Gofal Iechyd
- Grŵp nyrsio Cyn-gofrestru Cymru
- Grwp bwrsaiaeth Llywodraeth Cymru
- Panel y Brifysgol ar gyfer Arfer Academaidd Annerbyniol (AAA)
- Panel Addasrwydd i Ymarfer (Nyrsio) Prifysgol Aberystwyth
Yn mis Gorffennaf 2023 derbynniodd Amanda achredu gyda ‘Advance HE’ am ‘Pontio i Arweinyddiaeth’
Yn Mai 2024 cafodd Amanda ei phenodi yn Is-Gynullydd ar gyfer Deoniaid Iechyd Cymru
Cyfrifoldebau
Prif Arweinydd a Phennaeth Addysg Gofal Iechyd
CyfarwyddwrDysgu ac Addysgu ar gyfer Addysg Gofal Iechyd
Cyfrifoldeb gweithredol am raglenni addysg gofal iechyd gan gynnwys nyrsio, dychwelyd i ymarfer nyrsio a'r cwrs Lefel 4
Cyfrifoldeb gweithredol am lleoliadau ymarfer clinigol
Monitro ac adrodd ar ansawdd y cwricwlwm PA a CNB
Rheolwr tîm ar gyfer staff Canolfan Addysg Gofal Iechyd
Arweinydd Anghenion Ychwanegol/ Cydlynydd cymorth i fyfyrwyr
Arweinydd Addasrwydd i Ymarfer ar gyfer rhaglenni profesiynol y CNB
DBS/ Cydymffurfiaeth Iechyd Galwedigaethol
Tiwtor personol
Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
Ôl bys
- 1 Proffiliau Tebyg